Ysgol Tregarth

ss-1

Dosbarthiadau

Gair o'r Dosbarth - cliciwch ar enw'r dosbarth

plant

12.09.16 Croeso yn ôl i bawb yn Nosbarth Ogwen, Blwyddyn 6 - Yn ystod yr hanner tymor cyntaf yma, bydd dosbarth Ogwen yn gwneud gwaith yn seliedig ar thema o’r enw ‘Crewr Bwystfilod’. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar wyddoniaeth sy’n dysgu’r plant am gylch bywyd a chynefinoedd, rhannau o’r corff a swyddogaethau bwystfilod bychain yn yr ardal a thuhwnt. Cliciwch yma i weld lluniau o Dosbarth Ogwen ar ymweliad i Pili Palas. Cafodd y plant gyfleoedd i weld a chyffwrdd bwystfilod bach o bob math. Profiad gwych i gychwyn ein thema newydd. .


traeth

24.06.16 - Yn ddiweddar, mae Dosbarth Ogwen wedi bod yn cynllunio prosiect i ddatblygu ardd yr ysgol. Bu'r dysgwyr yn trefnu prynhawn o werthu cacennau a byddai'r elw yn mynd tuag at yr ardd. Roedd hi'n brynhawn llwyddianus iawn a casglwyd £149.50.
I weld mwy o luniau cliciwch yma

 

Trefniadau'r dosbarth 2018 - Am fwy o wybodaeth cliciwch yma


Thema’r hanner tymor yma yw Byd y Deinosoriaid - Os oes gennych unrhyw lyfrau, arteffactau neu wybodaeth sy’n gysylltiedig â’r thema byddwn yn gwerthfawrogi eu benthyg. Diolch am eich cefnogaeth.
plant

Dyma ni blant bach newydd y Dosbarth Meithrin! - Mae pawb wedi setlo’n arbennig o dda ac yn mwynhau cyd-chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau. Croeso mawr i chi ac i’ch teuluoedd i Ysgol Tregarth gan obeithio y byddwch yn hapus iawn yn ein cwmni.


plant

Mae disgyblion y Dosbarth Derbyn hefyd wedi seto’n wych ac yn mwynhau cael dod i’r ysgol trwy’r dydd fel plant mawr go iawn! Mae cael cinio yn yr ysgol yn brofiad cyffrous iawn hefyd! Estynnwn yr un croeso i chi ac i’ch teuluoedd. Rydym hefyd yn croesawu Leila a Celen sydd wedi ymuno â’r Dosbarth Derbyn eleni. (Yn absennol o’r llun mae Rhys).


Ymweliad Haf Llewelyn - Cafodd Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 fore gwerth chweil yng nghwmni’r awdures Haf Llewelyn. Roedd y disgyblion wedi mwynhau darllen y llyfrau newydd yn ei chyfres ‘Ned y Morwr’ ac roedd cael ei chlywed yn darllen ei llyfrau a thrafod y cymeriadau yn brofiad arbennig. Diolch yn fawr iawn i Haf Llewelyn am ddod atom ac mae’r disgyblion yn edrych ymlaen yn eiddgar am fwy o lyfrau yn y gyfres hon.

Ymweliad â Chastell Caernarfon - Fel rhan o thema’r dosbarth ar gestyll buom ar ymweliad â Chastell Caernarfon. Roedd yn gyfle i weld nifer o nodweddion castell ac roedd pawb wedi gwirioni o weld y tŵr, baneri’r ddraig goch yn chwifio a’r waliau uchel. Cafwyd prynhawn bendigedig ac roedd pawb wedi mwynhau cael teithio ar y bws mawr hefyd! Yn ôl yn y dosbarth cafodd y disgyblion hwyl yn chwarae rôl yng Ngastell Tregarth ac fe welwyd sawl tywysoges a marchog o amgylch y dosbarth!


P.C. Meirion Williams - Bu P.C. Meirion Williams draw atom am sgwrs ynglŷn â’i waith fel plismon a hefyd i annog pawb i ddysgu eu henwau llawn a’u cyfeiriad. Roedd pawb wedi mwynhau gwrando arno ac uchafbwynt y prynhawn oedd cael gwisgo het plismon. Roedd ganddo ddigon o hetiau i bawb gael eu gwisgo! Roeddem yn teimlo’n ddiogel iawn yn nosbarth Idwal gyda’r holl blismyn o’n cwmpas!


Traeth - Wyddoch chi fod yna draeth yn Nhregarth? Wel, mae disgyblion Dosbarth Idwal wrth eu boddau yn ymweld â’r ‘traeth’ fel rhan o’n thema bresennol. Gwelir disgyblion yn cael picnic, torheulo ac ymlacio, pysgota ac adeiladu cestyll tywod yn ein hardal chwarae rôl. Mae pawb yn dangos diddordeb mawr yn y thema ac yn mwynhau’r gweithgareddau.


Gweithgareddau wythnos Cymru Cŵl Dosbarth Idwal (Meithrin a Derbyn Ysgol Tregarth) - Roedd yna gynnwrf mawr yn nosbarth Idwal yn ystod wythnos Cymru Cŵl. Ein thema ar gyfer yr wythnos oedd ‘Hwyl yr Hwiangerddi’ a buom yn brysur yn dysgu nifer o hwiangerddi. Roeddem wedi dewis un hwiangerdd fel sail i’n gweithgareddau, sef Dau Gi Bach. Derbyniodd y disgyblion neges a phoster gan y ddau gi bach yn egluro eu bod yn drist oherwydd eu bod wedi colli un o’u ‘sgidiau. Roedd pawb eisiau mynd i chwilio am yr esgid ac felly allan â ni i chwilio. Ar ôl chwilio ym mhob man gwelwsom yr esgid ar ben coeden! Buom yn ymarfer defnyddio arddodiaid i osod yr esgid mewn gwahanol lefydd. Roeddem wedi trafod nodweddion poster y ddau gi bach ac wedi sylweddoli nad oedd o’n boster perffaith a bod angen ei wella. Felly aeth pawb ati i greu poster eu hunain yn disgrifio’r esgid.

Cafwyd bore gwahanol iawn Ddydd Iau pan ddaeth yr artist Anna Pritchard draw atom i weithio gyda’r disgyblion a chreu gwaith celf ar ar raddfa fawr. Llwyddwyd i gynnwys nifer fawr o hwiangerddi yn y gwaith ac mae’r gwaith gorffenedig yn werth ei weld a phawb wedi mwynhau bod yn artistiaid am y bore.

Bu’r disgyblion yn dysgu am Gymru wrth ddewis yn rhydd yn yr ardaloedd, e.e. llunio baner Cymru, arsylwi ar wrthrychau yn ymwneud â Chymru ac adeiladu castell. Cawsom flasu teisen gri yn ystod y Seswin Sgwrsio wythnosol ac roedd pawb wedi gwirioni wrth glywed mai yn Rachub cafodd y teisennau eu pobi! Yn ogystal, bu edrych ymlaen garw i gael gweld i dŷ pwy roedd Arthur yr Arth (arth ein dosbarth) yn mynd i dreulio’r noson. Clywodd nifer o ddisgyblion yn siarad Cymraeg ac roedd hyn yn ei wneud yn hapus iawn!

Ond, uchafbwynt yr wythnos oedd cymryd rhan yn y prynhawn, ‘Hwyl yr Hwiangerddi’. Cafodd pawb gyfle i ddewis hwiangerdd i’w pherfformio o flaen gweddill y dosbarth yn y Neuadd gyda meicroffôn! Yn bendant, dyma sêr pop Cymraeg y dyfodol!

 

plant

Croeso yn ôl i bawb yn nosbarth Llywelyn – blwyddyn 1 a 2 - Rydym yn edrych ymlaen am flwyddyn hapus a llwyddiannus yn nosbarth Llywelyn a chael cyfle i ddysgu am lawer o bethau newydd. Ein thema yn ystod yr hanner tymor cyntaf fydd Albwm y Teulu. Fel rhan o’r thema byddem yn mynd ar ymweliad i Amgueddfa Lechi, Llanberis i ddysgu am fywydau teuluoedd erstalwm. Byddem yn mynd ar daith gerdded o amgylch Dregarth i ddysgu am yr ardal leol. Yn ogystal bydd ymwelydd o’r Archifdy yn ymweld â’r dosbarth bore Mawrth (13/09/16), i arddangos hen deganau a gwisgoedd.


traeth

Y Gofod - Am dymor bu dosbarth Llywelyn yn brysur iawn yn dysgu am y Gofod. Rydym wedi cael tymor llawn brwdfrydedd a hwyl yn ystod y tymor wrth ddysgu am ffeithiau diddorol am y planedau gan gynnwys planed newydd. Mae pob un ohonom yn gallu enwi’r planedau yn ogystal â ffeithiau diddorol megis trefn y planedau, planedau cawr nwy, beth olygai lliwiau’r planedau a llawer mwy.

Yn ystod ein thema daeth ymwelydd atom sef Mr Derek Roberts er mwyn dangos ei delesgop a rhannu ei wybodaeth helaeth. Drwy gwestiynu Mr Roberts am y sêr a’r planedau fe wnaethom ddysgu mwy o ffeithiau diddorol. Wyddoch chi fod Sadwrn gyda chlustiau a bod wyneb ar blaned Mawrth? Hoffem ddiolch yn fawr iawn I Mr Roberts am ddod atom ac am fenthyg nifer o adnoddau defnyddiol i'r dosbarth dros y tymor.

Aethom yn ôl mewn amser am bythefnos yn ystod y thema i ddysgu am y dyn cyntaf ar y lleuad. Cawsom edrych ar erthyglau amrywiol, edrych ar strwythur papur newydd a defnyddio llyfrau ffeithiol i gasul mwy o wybodaeth. Llwyddodd bob un ohonom i ysgrifennu erthygl yn sôn am y digwyddiad bythgofiadwy yma.

Er mwyn rhoi clo ar ein thema cawsom baratoi picnic blasus i fwyta ar y lleuad yn dilyn stori ‘Beth Nesaf’, roeddem yn edrych yn wych gyda’n helm ofod.

Dym lun ohonom yn mwynhau picnic blasus!

I weld mwy o luniau cliciwch yma

 


traeth

Mawrth 2016 – Sesiwn Iwcalilis - Fe ddaeth Alun Evans o gwmni Iwca atom am y bore, cawsom gyfle i chwarae iwcalilis gydag Alun. Yn ystod y bore cawsom greu cerddoriaeth a chaneuon newydd unigryw i’n dosbarth gan gynnwys caneuon am fôr ladron a diwrnod crempog. Buasem wrth ein boddau gwahodd Alun yn ôl i’r ysgol yn y dyfodol. Dyma glip fidio ohonom yn perfformio gydag Alun.

I weld mwy o luniau cliciwch yma


traeth

Ymweliadau Nadolig - Bu dosbarth Llywelyn yng Nghapel y Ffynnon ym Mangor cyn torri am wyliau. Yno cawsom gymryd rhan mewn gweithgareddau Nadoligaidd gan ddysgu am stori’r geni, a chael perfformio mewn drama gan wisgo gwisgoedd bendigedig. Roeddem wrth ein boddau cael gwneud amrywiaeth o weithgareddau, diolch yn fawr am y croeso.

I weld mwy o luniau cliciwch yma


Wythnos Cymru Cŵl yn nosbarth Llywelyn - Rydym wedi bod yn mwynhau wythnos llawn egni a bwrlwm wrth ddathlu ein Cymreictod yn ystod Wythnos Cymru Cŵl. Cawsom wythnos llawn brwdfrydedd a hwyl wrth gynnal a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhoi balchder i ni am ein hiaith a’n cenedl. Roeddem wrth ein boddau yn cael dysgu chwedl Dinas Emrys a phenderfynodd nifer ohonom fynd ati i gynllunio, labelu ac adeiladu cestyll Cymreig gan edrych ar gestyll sydd ar draws ledled Cymru heddiw.

Daeth ymwelydd sef Miss Anna Pritchard atom ddydd Mawrth er mwyn creu tywysogion Cymreig o’r gorffennol. Cawsom hwyl a sbri yn mynd o amgylch cyrff ein gilydd ac addurno’r tywysogion gyda phapur tusw a phaent, ewch draw i weld lluniau o’r tywysogion ar ein gwefan. Am weddill o’r wythnos fe ddysgwyd gwybodaeth am arwyr Cymreig ddoe a heddiw gan ddefnyddio nifer helaeth o adnoddau TGCh. Diolch yn fawr i Anti Shirley am baratoi cinio gwerth chweil ar ein cyfer er mwyn dathlu ein Cymreictod ‘pnawn Mercher, cinio BENDIGEDIG!

Er mwyn rhoi clo ar wythnos Cymru Cŵl cawsom wisgo dillad/crysau coch, roedd môr o grysau coch i’w weld yn Neuadd yr ysgol. Braf oedd cael coginio cacennau cri a dysgu dawns werin yn ystod Amser Enfys. Ac yn dilyn hyn rydym wedi penderfynu ein bod am barhau i ddysgu’r ddawns werin yn ystod ein gwers Ymarfer Corff wythnos nesaf. Rydym yn edrych ymlaen i ddathlu wythnos Cymru Cŵl eto yn y flwyddyn newydd!

plant


06.09.18 - Gair o'r dosbarth - cliciwch yma.


plant
13.02.17 - Ymweliad Dosbarth Ffrydlas a’r Beatles Story, Albert Dock,Lerpwl
Dydd Gwener, Chwefror 3ydd, aeth Dosbarth Ffrydlas ar ymweliad i Lerpwl i ddysgu mwy am y Beatles gan ein bod wedi astudio cyfnod yr 1960au. Yn gyntaf cawsom fynd o gwmpas yr arddangosfa a cheisio chwilio am atebion i lenwi ein llyfrau ymchwil. Gwelsom lawer o luniau, byrddau gwybodaeth a hyd yn oed brofi bod yn y Cavern Club ar Mathew Street. Roedd yn gyfle da i ddysgu mwy am fywyd Paul, John, Ringo a George a pham y daethan mor enwog! Gwelsom ffilm o ferched yn sgrechian, llewygu a chael eu cario ffwrdd ar stretsiers!! Roedd yn anodd credu fod pobl wedi gwirioni cymaint o weld y 4 dyn ifanc o Lerpwl yn perfformio.
Hefyd cawsom gyfle i chwarae gemau ‘interactive’ am eu miwsig, wneud lluniau yn arddull Andy Warhol ac yn fwy o hwyl wedyn, cael gwisgo fyny fel y Beatles gan gynnwys wig du crafog!! Ar ol cinio, cyfle i gerdded drwy Albert Dock (gan bicio mewn i’r siop da-da) i lawr at Pier Head ble cawsom y 4D Experience. Ffilm oedd hwn a ninnau yn ein sbectol dywyll yn rhan ohoni! Symudodd y sêti, tasgodd dŵr drostom a nofiodd pysgod o’n cwmpas, heb son am fefus melys, a hynny i gyd i gyfeiliant caneuon y Beatles.
Teimlad pawb oedd bod hwn wedi bod yn ddiwrnod ardderchog ac yn drip i’w gofio.

plant
plant plant
27.01.17 - Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym ni yn Nosbarth Ffrydlas yn gweithio ar thema o’r enw ‘Dim ond Mods a Rocyrs’. Eisoes, mae brwdfrydedd mawr wedi bod ymysg y disgyblion wrth ddysgu am gyfnod cynhyrfus yr 1960au. Braf yw gweld fod y brwdfrydedd yn cael ei drosglwyddo i deuluoedd y plant hefyd, ac amryw o arteffactau hanesyddol hynod o ddiddorol wedi cyrraedd y dosbarth. Diolch i neiniau a theidiau am gytuno i gael eu cyfweld, am anfon lluniau a hyd yn oed Albwm priodas i ni eu gweld. Hefyd buom yn gweithio i gyfeiliant Elvis, yn cael ei chwarae ar chwaraewr recordiau o’r cyfnod! Bydd yr wythnos nesaf yn hynod gynhyrfus gan ein bod yn mynd ar ymweliad ddydd Gwener y trydydd o Chwefror i’r ‘Beatles Experience’ yn Albert Dock, Lerpwl. Cewch adroddiad am yr ymweliad yn nes ymlaen!

 

07.11.16 - Yn ystod yr hanner tymor nesaf , bydd Dosbarth Ffrydlas yn gweithio ar brosiect o’r enw ‘Y Synhwyrau’. Gwyddoniaeth fydd prif ffocws y thema, a bydd y plant yn dysgu am oleuni a sain. Byddwn yn edrych ar sut mae clustiau a llygaid yn gweithio. Bydd cyfle hefyd i fod yn greadigol drwy ysgrifennu, cyfansoddi cerddoriaeth a chreu gwaith celf. Os oes gan unrhywun arbenigedd yn y meysydd yma, byddwn yn falch iawn o glywed gennych.


plant

Medi 2016 - Dechrau blwyddyn brysur a phlant bl 4 a 5 dosbarth Ffrydlas yn edrych ymlaen yn arw at gael dechrau ar eu gwaith. Yn ystod yr hanner tymor cyntaf, byddwn yn gweithio ar brosiect o’r enw Duwiau a Gladiatoriaid. Canolbwyntio fyddwn ni ar hanes y Rhufeiniaid a’u heffaith ar fywyd y Celtiaid. Byddwn yn tanio dychymyg y disgyblion gydag ymweliad â’r Dewa Roman Experience yng Nhaer ar ddydd Gwener, Medi 9fed. Yno, cawn gyfarfod a threulio amser yng nghwmni milwr Rhufeinig go iawn!


plant

24.06.16 - Wythnos lwyddiannus i Gymru a’i thîm pel droed. Wythnos lwyddiannus yn Nosbarth Ffrydlas hefyd, gyda’r plant wedi gweithio’n galed ar amryw o weithgareddau ar thema Ewro 2016. Buom wrthi’n datrys problemau mathemategol, yn cyfrifo modd, amrediad, canolrif a chymedr gwahanol setiau o ddata. Ymchwiliodd pawb i’r wlad a gawsant yn ein ‘sweep’dosbarth gan greu taflenni gwybodaeth lliwgar. Hoff dasg llawer oedd dylunio cit newydd i dim Cymru yn dilyn gwaith ymchwil ar gitiau hanesyddol. Cafwyd yn wir ambell i ddyluniad gwirionedd wych.


23.06.16 - Diolch am bnawn braf i gynnal ein mabolgampau. Cafodd plant Ffrydlas lwyddiant o fewn eu timau gyda amryw ohonynt yn ennill pwyntiau i’w tim. Y tim glas oedd yn fuddugol, a llongyfarchwyd hwy gan aelodau’r timau eraill yn ysbryd cefnogwyr Cymru. Da iawn chi blant.


Samba

17.06.16 - Cyrhaeddodd rythmau’r Samba i Dregarth heddiw gyda gweithdy Olympaidd yng nghwmni Colin Daimond. Daeth i’r ysgol gyda’i ddrymiau, ei ‘shakers’, ei glychau agogo ac wrth gwrs ei lais! Ein tro ni oedd hi ar ôol amser chwarae a phawb yn cael tro ar yr holl offerynnau, cyn dysgu darn ar gyfer ei borfformio i weddill yr ysgol yn y pnawn. Roedd perfformiadau pawb yn wych, ond roedden ni yn nosbarth Ffrydlas yn meddwl mai ni oedd y gorau! Rhai o’r geiriau ddefnyddiodd y plant i ddisgrifio’r weithgaredd yma oedd :- ansbaradigaethus, gwych, ardderchog, anhygoel, arbennig. Does dim amheuaeth felly i bawb fwynhau.


Wythnos Cymru Cwl - Heb os nac oni bai,rydym ni wedi mwynhau wythnos Cymru Cwl ,oherwydd ein bod ni wedi dysgu llawer am hanes Cymru a rhai o’I arwyr fel Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndwr a rhai eraill hefyd.Cawsom gyfle I greu arfbais Tywysog Cymru ,creu linell amser yn dangos rhai pethau a ddigwyddodd yng Nghymru a gafodd effaith ar y bobl a’r iaith. Yn sicr,mae llawer o bob ar hyd y canrifoedd wedi trio stopio’r iaith Gymraeg fyw!

Dwi’n teimlo fod yr iaith Gymraeg yn bwysig oherwydd fod yr holl pobol wedi trio mor galed i’w chadw’n fyw.

Rydan ni’n teimlo rwan ei bod yn hollbwysig i ni drio siarad Cymrag llawer mwy, ac bob dydd,ac yn enwedig ar yr iard oherwydd dyma’r unig ffordd i ni helpu i gadw’r iaith yn fyw am ganrifoedd eto!

Jac Roberts Bl 5
Megan MacDonold Jones Bl 4

 

 

Bookmark and Share

Datganiad Preifatrwydd

© 2024 Ysgol Tregarth ~ Gwefan gan Delwedd