Polisi Preifatrwydd

Cartref > Polisi Preifatrwydd

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri, felly fe'ch anogwn i ddarllen y polisi hwn yn ofalus gan ei fad yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch:

  •     Pwy ydym ni
  •     Pa wybodaeth ydym yn casglu
  •     Sut a pham yr ydym yn casglu, yn storio ac yn rhannu gwybodaeth bersonol
  •     Eich hawliau yng nghyswllt eich gwybodaeth bersonol
  •     Sut i gysylltu a ni ac awdurdodau goruchwylio as oes gennych gwyn

Pwy ydym ni

Mae Ysgol Tregarth ('ni') yn casglu, defnyddio ac yn gyfrifol am wybodaeth bersonol benodol amdanoch chi fel 'rheolydd data'. Wrth wneud hynny, cawn ein rheoleiddio gan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol sy'n weithredol ledled yr Undeb Ewropeaidd (yn cynnwys y Deyrnas Unedig) ac rydym yn gyfrifol fel 'rheolwr data' am y wybodaeth bersonol honno er dibenion y cyfreithiau hynny.

Gwybodaeth bersonol am ddisgyblion yr ydym yn ei chasglu a'i defnyddio:

  • Gwybodaeth a chysylltiadau personal i adnabod disgyblion (enw, rhyw, dyddiad geni, cyfeiriad, rhif unigryw disgyblion (UPN), cyfeiriad e-bost, manylion cyswllt mewn argyfwng)
  • Nodweddion (ethnigrwydd, cenedligrwydd, iaith y cartref, cymhwysedd prydau ysgol am ddim)
  • Taliadau cinio a patrwm prydau y plentyn
  • Gwybodaeth diogelu (gorchmynion llys, cyfranogiad personal ac adroddiadau y gwasanaethau cymdeithasol ac amddiffyn plant, gwybodaeth gefndir berthnasal am y teulu)
  • Anghenion addysgol arbennig (anghenion a safle yn cynnwys gwybodaeth 'Mwy abl a thalentog')
  • Presenoldeb (nifer y sesiynau a fynychwyd, nifer yr absenoldebau a rhesymau dros absenoldeb)
  • Meddygol a gweinyddiaeth (gwybodaeth am feddyg, alergeddau, meddyginiaeth a gofynion dietegol)
  • Asesiad a chyrhaeddiad (canlyniadau profion statudol ac anstatudol, hanes addysgol, lefelau cyflawniad disgwyliedig, adroddiadau tymhorol a blynyddol)
  • Gwybodaeth am ymddygiad (gwaharddiadau ac unrhyw ddarpariaethau sydd wedi'u rhoi yn eu lle)
  • Amserlen a'r dosbarthiadau a fynychir (yn cynnwys gwersi offerynnau cerdd)
  • Lluniau (yn cynnwys delweddau teledu cylch cyfyng TCC)
  • Caniatad ar gyfer teithiau ysgol a lluniau a gyhoeddir (yn cynnwys enw'r sawl a roddodd y caniatad a'r dyddiad)
  • Manylion y sawl y caniateir iddo / iddi gasglu disgybl o'r ysgol

Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion am y dibenion a ganlyn:

  • I gefnogi addysg y disgybl
  • I fonitro ac adrodd ar gynnydd cyrhaeddiad y disgybl
  • I ddarparu gofal bugeiliol priodol
  • I asesu ansawdd ein gwasanaethau
  • I gadw plant yn ddiogel (alergeddau bwyd, manylion cyswllt mewn argyfwng, delweddau TCC)
  • I fodloni gofynion statudol ar gyfer defnydd gyda chasgliadau data, archwiliadau statudol a dibenion archwilio

Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio. Dyma lie rydym yn gwneud penderfyniad yn awtomatig amdanoch chi heb ymyrraeth dynol.

Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i brosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:

  • Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio a rhwymedigaethau cyfreithiol y mae'r rheolydd data yn destun iddynt
  • Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn gwarchod buddion hanfodol testun y data neu unrhyw berson naturiol arall.
  • Mae prosesu yn angenrheidiol at ddiben tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu yn sgil dyfodiad awdurdod swyddogol y rheolydd data

Yn ogystal, yn gysylltiedig ag unrhyw ddata categori arbennig

  • Mae prosesu yn angenrheidiol er dibenion cwblhau'r goblygiadau a defnyddio hawliau penodol sydd gan y rheolydd neu destun y data sy'n darparu ar gyfer mesurau diogelu priodol ar gyfer hawliau sylfaenol a diddordebau testun y data
  • Mae prosesu yn angenrheidiol i warchod diddordebau hanfodol testun y data neu berson naturiol arall pan nad oes gallu corfforol neu gyfreithiol gan destun y data i roi caniatad
  • Mae prosesu yn angenrheidiol er dibenion archifo er budd y cyhoedd, ymchwil gwyddonol, ymchwil hanesyddol neu ddibenion ystadegol. Bydd hyn yn gymesur i'r nod yr anelir ato, yn parchu hanfod yr hawl i ddiogelu data a diogelu hawliau sylfaenol a diddordebau testun y dat a.

Y rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth am ddisgyblion yw:

  • Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgyblion) (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
  • Adroddiad Addysg (Adroddiad Pennaeth Rhieni ac Oedolion) (Cymru) 2011
  • Deddf Diogelu Data 1998
  • Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2012
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysgol (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Gorchymyn Rheoliadau (Diogelwch Tan} 2005/ Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol {Diogelwch Tan} 2005 (cwblheir ffurflenni PEEPS ac mae'r rhain yn cynnwys manylion unrhyw anableddau sydd gan blentyn / aelod o staff}

Casglu Gwybodaeth am Ddisgyblion

Rydym yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion drwy ffurflenni cofrestru wrth i ddisgyblion ddechrau yn yr ysgol ac rydym yn derbyn peth data drwy Common Transfer File (CTF) os yw plentyn yn trosglwyddo atom o ysgol arall

Er body rhan fwyaf o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn hanfodol, bydd peth gwybodaeth yn cael ei darparu ar sail wirfoddol

Er mwyn cydymffurfio a'r ddeddfwriaeth diogelu data, byddwn yn rhoi gwybod i chi p'un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn.

Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatad penodol ac yn rhoi 'r opsiwn i chi dynnu'r caniatad yn 61 ar unrhyw adeg.

Storio Data am Ddisgyblion

Rydym yn cadw data am ddisgyblion yn ddiogel am gyfnodau penodol o amser fel y dangosir yn ein rhestr cyfnodau cadw . Am ragor o wybodaeth am ein cyfnodau cadw, ewch i'r polisi diogelu data ar ein gwefan.

Gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion

Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd gyda:

  • Ysgolion y mae'r disgybl yn mynd iddynt pan fyddant yn ein gadael ni
  • Cyngor Gwynedd, Awdurdod Lleol, Swyddfa Addysg - Cymhorthyddion SIMS, Cwnselydd Ysgol, Swyddog Lies, Gwasanaethau Cymdeithasol, Hamdden, Trafnidiaeth, Cyllid, Derwen, GwE, Tim ADY a Chynhwysiad
  • Bwrdd lechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - nyrs ysgol, deintydd, Camhs
  • Estyn
  • Yr Heddlu a'r tim troseddu ieuenctid
  • Canolfannau laith (pan fo angen)
  • Llywodraeth Cymru
  • Corff Llywodraethol yr Ysgol (lie sydd yn angenrheidiol}
  • Cynnal -drwy SIMS (system rheoli gwybodaeth ysgolion)

Asiantaethau a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan:

  • Llywodraeth Cymru
  • GwE
  • Cynnal
  • Capita - SIMS
  • SchoolGateway
  • SchoolComms
  • Teachers2Parents
  • lncerts
  • Antur Waunfawr - Gwaredu gwastraff cyfrinachol
  • Edufocus trwy Evolve
  • Google Drive
  • G-Suite
  • My Concern
  • PASS
  • Boxall
  • Tempest - cwmni sydd yn tynnu lluniau ysgol
  • Dropbox
  • Delwedd

Cwmniau perthnasol sy'n hyrwyddo ac yn gweinyddu profiadau dysgu ein disgyblion:

  • Llywodraeth Cymru - drwy HwB
  • GwE
  • Prifysgol Bangor
  • Colegau Addysg Bellach - Coleg Meirion Dwyfor, Coleg Menai, Coleg Llandrillo
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Google Classrooms
  • Seesaw
  • Purple Mash
  • Class Dojo
  • Building Blocks
  • Twitter
  • Facebook
  • William Mathias

Pam yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd

Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ein disgyblion gydag unrhyw un heb ganiatad, oni bai bod y gyfraith a'n polis"iau yn caniatau i ni wneud hynny.

Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cymru ar sail statudol. Mae rhannu data yn y modd hwn yn tanategu cyllid yr ysgol ac yn monitro cyrhaeddiad addysgol.

Mae'n ofynnol i ni gasglu data dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011.

Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda'n Hawdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd, a Llywodraeth Cymru dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2011

Cais i gael mynediad i'ch data personal

Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad i'r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad i gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch ag un o'r isod:

Pennaeth
Ysgol Tregarth
Ffrwd Galed
Tregarth
Gwynedd
LL57 4PG

Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL551SH

Mae gennych hefyd yr hawl i:

  • Wrthwynebu i ddata personal gael ei brosesu sy'n debygol o ac hosi, neu sy'n achosi, niwed neu ofid
  • Atal unrhyw beth rhag cael ei brosesu er dibenion marchnata uniongyrchol
  • Gwrthwynebu penderfyniadau a wneir drwy ddulliau awtomataidd
  • Cywiro, Atal, dileu neu ddinistrio data personal anghywir mewn rhai amgylchiadau
  • Hawlio iawndal am y niwed a achoswyd o ganlyniad i dorri rheoliadau Diogelu Data

Os oes gennych bryder ynglyn a'r modd yr ydym yn casglu neu'n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi godi eich pryder gyda ni i ddechrau . Fel arall, gallwch gysylltu a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) drwy ico.org.uk.

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Mae'n bosib y bydd angen i ni ddiweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gyfnodol, felly, argymhellwn eich bod yn ailymweld a'r wybodaeth hon o bryd i'w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hwn ddiwethaf ar Tachwedd 2019

Cyswllt

Os hoffech drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch ag un o'r isod:

Pennaeth
Ysgol Tregafrth
Ffrwd Galed
Tregarth
Gwynedd
LL57 4PG

Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL551SH